Friendly vs Little Baddow, 18th September 2005, Little Baddow
Yr haf a wêl rhyw fowliwr
Eto'n gorchfygu batiwr;
Stymps ar chwâl sy'n codi stwˆr
Editor's note: extra special thanks to Rhodri for the match report in Welsh. The bit above is a traditional Welsh style of poetry called a cynghanedd about cricket , which Rhodri commissioned specially for the report. What? You're not still bitter about the Six Nations are you??
Dechreuodd pethau’n dda wrth i gapten y dydd, Dave Hickey, ennill tafliad
y ceiniog a dewis i fatio. Ar wiced a edrychodd yn dda i fatio collodd Vince
a Colin eu whicedi wedi rhoi ond 1 ar y bwrdd cadw sgôr. Yna mewn ffrwydriad
byr lwyddodd Rhodri i gyrraedd y ffin gyda nifer o drawiadau cyn iddo golli
ei wiced i bel a osododd ar goes a chanol yna semiodd i gymryd y stymp allanol.
Edrychodd y rhagolygon yn dywyll wrth i Gaeau Llundain colli 3 wiced heb lawer
o rhediadau ar y bwrdd.
Batiodd Dave, a chapten y clwb, Jason, yn wyliadwrus, ac eto yn rhwydd, wrth
i’r dasg o greu rhyw fath o barchusrwydd syrthio iddyn nhw. Wrth i Dave
gyrraedd y ffin yn rhwydd gyda’i drawiadau, gyda un 6 yn clirio’r
coed o amgylch y cae, cynyddodd Jason ei rhediadau yn fwy osgeiddiedig gyda
chwpwl o doriadau-sgwar. Wrth I bethau edrych fel fod y pwysau cynnar yn atal
syrthiodd J-Lo, C.O.F. wiced, am 19, er iddo blannu ei goes yn bell i lawr
y wiced, dangosodd ei golled y bowns isel anaml.
Allan i’r canol ddaeth Chris ar ol i Jason colli ei wiced. Er i Chris
golli rhan fwyaf o’r tymor galluogodd ei lygad ardderchog a’i
steil anuniongred ef i gyrraedd y ffin yn rhwydd ag yn aml yn gorfodi Baddow
Fach i ledu’u maeswyr i bob rhan o’r cae. Ag er i 8 dyn greu linell
gref ar ochr y goes parahodd Chris i ddod o hyd i’r tyllau. Wrth i daro
caled Chris ei galonogi parhaodd Dave i bentyrru rhediadau a chyrraedd ei
hanner cant â chymysgedd o ergydion confensiynol a thrawiadau epaol.
Yn anffodus nid oedd yn bosib i’r partneriaeth yma symud ymlaen wrth
i Chris golli ei wiced, am 28, i bel syth.
Daeth RJ i’r wiced, ac yn syth roedd ei fwriad yn glir wrth iddo sgorio
6 oddi ar y bel gyntaf. Gydag RJ yn gysurus a Dave yn batio’n dda roedd
hi’n brynhawn i rhedeg i ffwrdd a hi, hynny oedd tan i ‘r gwrthwynebwyr
dal Dave ar 85 a Richard Gorman yn sydyn wedyn am 0. Rhaid dweud dioddefodd
Richard beirniadaeth gref oddi wrth Gully ar y ffin, ai hynny oedd y rheswm
am y cyflwr meddyliol ag arweiniodd i’w hwyaden?
Gyda RJ a Rob yn cyfrannu rediadau hwyr defnyddiol caeodd y batiad ar 213-7
oddi ar 36 pelawd gyda Jarvis yn cymryd 4 wiced i Baddow Fach a Bucknell yn
bowlio ‘Pel y Ganrif’.
Ar ôl gormod o de hael roedd amddiffyn beth edrychodd yn sgor isel mynd
i fod yn anodd, ond gyda Turley a RJ yn agor y bowlio gyda’u gilydd
roedd y pwysau i gyd ar Baddow Fach i gychwyn yn dda. Cipiodd Caeau Llundain
y cam cyntaf gyda Turley yn glanio’i bêl ar hyd annifyr ac RJ
yn cymryd 3 whiced mewn agoriad ffyrnig, un ohonyn yn dod yn ei belawd cyntaf
wrth iddo symud y pêl yn ôl trwy’r gât.
Os byddai’r maesu wedi cyrraedd yr un safon a’r bowlio cynnar
fe allai pethau wedi bod yn fwy cadarn i Gaeau Llundain ond bu sawl person
yn euog o fethu ag atal y bêl rhag cyrraedd y ffin. Fe ddaeth yr esiampl
fwyaf llachar amlwg oddiwrth Tony wrth iddo ddynwared eogyn wrth iddo neidio
a chlirio pêl ddigon hawdd i’w hatal, o laeaf tynnodd y camp hun
chwerthin afreolus o’r tim a’r gwrthwynebwyr.
Gyda Dave yn newid y bowlio ddaeth Richard ‘Brenin Sbaen’ Gorman
i’r ymosod, gwelodd y dyfodiad yma nifer o gwestiynnau caled yn cael
eu gofyn o fatwyr Baddow Fach. Lloriwyd sawl siawns ag aeth mwy nag un llithriadau
oddi ar fowlio Richard. Ond mewn chwinciad newdiodd lwc Richard gyda’r
daliadau yn aros yn y dwylio wrth i Jason cymryd y daliad cyntaf yn hawdd
tra’n sefyll yn safle’r ail slip. Yn bendant, daeth Caeau Llundain
yn ymysydol wrth i Turley ddod yn ôl ymlaen i cefnogi ‘Brenin
Sbaen’.
Y wiced tyngedfennol oedd Bucknell a fu’n batio yn gadarn ac yn bwerus.
Wrth iddo symud ymlaen i 85 ni chafwyd yr un siawns i’w anfon yn ôl
i’r pafiliwn ac roedd yn amlwg ei fod yn barod i greu ymosodiad a fyddai’n
cymryd Baddow Fach yn agos i frig y gêm. Ond gyda’r gêm
yn symyd i ddiweddglo cynhyrfus daliodd Jason Bucknell oddi ar bowlio Richard.
Roedd y rhyddhad o densiwn yn amlwg ymysg chwaraewyr Caeau Llundain a, gyda’r
cynffon yn amlwg i ddod, cymerodd Turley un wiced a Richard y gweddill gyda
Rob Y Gully yn cymryd 2 daliad yn sefyll fel Gully COES. Daeth batiad Baddow
Fach i ddiweddglo o 175 oddi ar 36 pelawd gyda Richard ‘Brenin Spaen’
yn gorffen gyda ffigyrau o 5 am 60.
Gyda’r tymor yn gorffen ar uchafbwynt a meddyliau yn troi tuag at Cymru
yn cipio’r Gamp Llawn am yr ail dymor yn olynol dyma’r bwrdd cadw
sgor:
London Fields Batting:
| Batsman | Scoring | How Out | Bowler | Total |
| Vince | - | bowled | Jarvis | 1 |
| Rhodri | - | bowled | Bucknell | 12 |
| Colin | - | bowled | Jarvis | 0 |
| Dave H | - | bowled | Jackson | 85 |
| Jason L | - | c.f.w. | Edser | 19 |
| Chris | - | bowled | Jarvis | 28 |
| Richard J | - | h.f.a.* | - | 22 |
| Richard G | - | bowled | Jarvis | 0 |
| Rob | - | h.f.a. | - | 15 |
| Paul T | - | heb | fatio | - |
| Tony | heb | fatio | - | |
| Extras | ?? | |||
| Total: 213-7 36 pelawd |
||||
* me neither..., ah, "not out", I presume
London Fields Bowling:
| Name | Overs | Maidens | Runs | Wickets | Average |
| Paul T | 12 | 4 | 51 | 1 | 51 |
| Richard J | 6 | 1 | 12 | 3 | 4 |
| Tony | 4 | 0 | 25 | 0 | - |
| Richard G | 11.1 | 0 | 60 | 5 | 12 |
| Rob | 3 | 0 | 20 | 0 | - |