| |
Polisi Iaith i Gymru
gan Roger Warren
Evans, PLE Gw^yr
Mae "Mater yr Iaith" wedi ymddangos yn flaenllaw yng
ngwleidyddiaeth Cymru ers tro. Meddylir yn
gonfensiynol am y mater yn nhermau arddeliad defnydd
o'r Gymraeg "yn erbyn" defnydd o'r Saesneg. Mae'r
defnydd o'r Iaith Gymraeg wedi dod yn un o ddilysnodau
cenedlaetholdeb Cymraeg, arddeliad hunaniaeth
ddiwydiannol Gymraeg, Geltaidd i wrthgyferbynnu a^
chonfensiynau diwylliant "Saesneg" Eingl-Sacsonaidd. Gwir yw bod hanes Cymru wedi'i greithio gan ormesu'r
Iaith Gymraeg a Siaradwyr y Gymraeg gan Siaradwyr
Saesneg arglwyddiaethol. Mae pegyneddau ieithyddol
tebyg wedi creithio cymdeithasau Ewropeaidd eraill,
yng Ngwlad Belg, yn Llydaw ac yn Nhaleithiau'r
Basgiaid. Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae'n ddealladwy
i'r sawl sydd yn gwrthwynebu rheolaeth o Lundain
dyrru'n gefn i iaith draddodiadol Cymru. Nid hap a
damwain yw bod un o grwpiau mwyaf radicalaidd Cymru'n
dwyn yr enw Cymdeithas yr Iaith.
Dylai polisi iaith y dyfodol i Gymru, fodd bynnag,
gael ei lunio mewn termau lletach: ni ddylai gael ei
gyfyngu gan wrthdrawiadau Siaradwyr Cymraeg a
Siaradwyr Saesneg. Yn wir, mae angen cyfochrog am
bolisi iaith ledled y DU i lywodraethu ar ieithoedd
amryfal gan y Wladwriaeth fodern a'i hasiantaethau.
Fel cymdeithas aml-ddiwydiannol, yr angen yw i addasu
gofynion aml-ieithrwydd, ac i symud i ffwrdd o
gonfensiwn cymdeithas unieithog, neu ddwyieithog hyd
yn oed. Mewn cymdeithas fodern fel Cymru, yr angen yw
am driniaeth systematig o broses gyflawn cyfathrebu
trwy iaith.
Mae gan bolisi iaith ddau ddimensiwn eithaf gwahanol,
sef y personol a'r
cymunedol.
I Personol
Yr egwyddor gyntaf, wedi'i llunio eisoes yn
neddfwriaeth y DU at ddibenion achosion llys
troseddau, yw bod hawl gan unrhyw berson, pan gaiff ei
wynebu gan y condemnio a'r cosbi sydd o'i flaen, gael
ei wrando a gwneud ei amddiffyniad yn ei famiaith. Y
Llys, fel rhan o drin achos teg, i sicrhau bod
cyfleusterau cyfieithu/trosi ar gael at y diben hwnnw.
Dylid datblygu'r egwyddor honno, fel prif gangen
unrhyw bolisi iaith, gan ei bod yn gyfwerth a^ hawl
dynol cyffredinol, yn mynd ymhell tu hwnt i reolau ar
gyfer defnyddio'r Gymraeg neu ieithoedd traddodiadol
eraill. Mae'n berthnasol gyda grym cyfartal ar gyfer
yr ymwelydd dieithr a gaiff ei gyhuddo o siopladrata
yn Stryd Rhydychen, Llundain. Ble bynnag mae rhywun yn
mynd i'r afael a^'r Wladwriaeth fodern, at ddiben
naill ai sicrhau budd neu osgoi cosb, dylid cynnal
egwyddor y famiaith yn ddyfal.
Mae egwyddor y "famiaith" wedi'i sefydlu'n dda eisoes
fel mater o arfer Cyfraith Gwlad a Llys. Dylid ei hehangu'n groyw, fodd bynnag, i bob sefyllfa lle bydd
yr unigolyn naill ai'n wynebu canlyniadau gwrthwynebol
dichonadwy. (e.e. gan gynnwys Tollau neu ymholiadau
mewnfudo) neu bod ganddo fudd cyhoeddus gwerthfawr i'w
ennill neu'i golli, yn o^l canlyniad yr achos.
II Cymunedol
Mae'r ail grw^p o egwyddorion yn gymunedol, neu'n
dorfol, o ran natur. Ar gyfer pob cymdeithas, mae
angen ymarferol dosbarthiad teirffordd ieithoedd, fel
a gyflwynwyd gan y Wladwriaeth o fewn ffiniau ei
thiriogaeth.
-
Yn gyntaf: Mae ar bob Gwladwriaeth, yn hanfodol i
drefn ddinesig, angen iaith swyddogol. Dyma iaith
swyddogol y Wladwriaeth, iaith statudol, iaith
cyhoeddiadau a threfnau cyhoeddus swyddogol, iaith
creu rhwymedigaethau, cosbau a budd-daliadau newydd. Awgryma
profiad y dylai fod un iaith swyddogol yn unig, os oes
modd. Lle bo gan wladwriaethau ddwy iaith swyddogol
neu fwy (Iwerddon, Canada) mae'n hawdd i wahaniaethau
mewn dehongliad greu cymhlethdod diangen, os nad
gwrthdrawiad. O dan Ddeddf Llywodraeth i Gymru,
bwriadwyd ar y cychwyn sefydlu statws iaith swyddogol
ar y cyd i'r Saesneg ac i'r Gymraeg, ond rhoddwyd y
gorau i'r cynllun hwnnw yn yr adeg cynnar.
-
Yn ail: Efallai bod confensiwn cymdeithasol a
hanes
yn annog adnabod iaith draddodiadol, iaith diwylliant,
dysg a chyfathrebu cymdeithasol, a allai gael ei
siarad yn arferol gan nifer fawr o ddinasyddion ond
nid yr iaith swyddogol mohoni. Mae Cymraeg yn
enghraifft dda o iaith draddodiadol o'r fath, fel y
mae Gwyddeleg yn Iwerddon, a Llydaweg yn Llydaw. Yn
hyn o beth gall un wladwriaeth gynnal amrywiaeth o
wahanol ieithoedd o fewn ei ffiniau, ar lefel
daleithiol neu ranbarthol a dylai fod yn bosibl cynnal
y fath wahaniaeth o fewn ffra^m daleithiol (Catalaneg
yng Nghatalwnia, Llydaweg yn Llydaw, Cernyweg yng
Nghernyw).
-
Yn drydydd: Mae'n rhaid i bob cymdeithas yn awr, o
ystyried yr amrywiaeth ethnig a diwylliannol gynyddol
o fewn pob cymdeithas, gyflwyno amrywiaeth o ieithoedd
cymunedol, boed yn ieithoedd amgen na'r iaith frodorol
draddodiadol, ond a ga^nt eu siarad gan niferoedd
sylweddol o fewnfudwyr o fewn eu cymunedau eu hunain,
ac a allent fod yn famiaith o hyd fewnfudwyr
newydd-gyrraedd neu drigolion hy^n nad ydynt erioed
wedi dysgu Saesneg yn foddhaol.
Dylai pob Gwladwriaeth egluro'n fanwl, yn gyfreithlon,
derfynau'r gwahanol gategori"au hyn o iaith a'u
goblygiadau gweinyddol a gwleidyddol. Yn y DU, mae
angen deddfwriaeth gynradd, yn well heb ei chyfyngu i
Gymru. Mae'r traethawd hwn yn gosod yr egwyddorion y
dylid paratoi deddfwriaeth o'r fath arnynt.
Iaith Swyddogol
Dylai'r DU benodi un iaith swyddogol, yn gyfrwymol ar
ei holl diriogaethau. Dylai fod gofyn i ddatganiadau
ac anghenion swyddogol, cyfarwyddiadau a budd-daliadau a
roddwyd, fel mater o'r Gyfraith Gyfansoddiadol gael eu
mynegi yn yr iaith swyddogol, a'u mynegi'n glir. Mae'r
egwyddor hon wedi cael ei datblygu fel mater o
Gyfraith Gwlad, ac mae wedi'i chorffori yn egwyddorion
dehongliad wedi'u gosod gan y Llysoedd wrth benderfynu
ar y statudau a'r offerynau statudol (h.y.
deddfwriaeth gynradd ac eilradd).
Yn yr ystyr hon, boed a^ darpariaeth statudol benodol neu
beidio,
Saesneg yw iaith swyddogol Cymru. Mae'r egwyddor hon
yn ymestyn i anghenion cyhoeddus a roddwyd o dan
ddeddfwriaeth, wedi'i gwneud gan unrhyw gangen o
lywodraeth, boed yn genedlaethol, yn daleithiol neu'n
lleol: ond mewn cymdeithas symudol iawn, mae'r un
mwyaf cyffredin o'r rhain i'w weld yn arwyddion y
briffordd, ond mae'r egwyddor yn gynnwys hefyd i'r dull
o gynnal pob prawf achos sifil neu o drosedd. Nodwedd
hanfodol o gymdeithas gyfoes yw'r daflen wybodaeth, yn
enwedig yn y sector lles a gall hon droi'n raddol yn
gyfarwyddiadau gweinyddol cyfrwymol neu weithredol neu
gynghorol, yn effeithio ar safbwynt dinesydd. Dylid
gwneud pob datganiad "swyddogol" yn yr Iaith
swyddogol. Dylai'r un peth fod yn wir am gofnodion o
achosion cyhoeddus, gan gynnwys cofnodion seneddol a
rhai'r Gwasanaeth Sifil; lle gwnaethpwyd unrhyw
ddatganiad, yn y fath achosion, mewn unrhyw iaith yn
wahanol i'r Iaith Swyddogol, dylai'r cofnod bob amser
gario cyfieithiad swyddogol. Ac ym mhob achos yr iaith
swyddogol yn unig a ddylai greu effaith gyfreithlon.
Iaith Draddodiadol
I'r rhan fwyaf o barthau yn y DU nid oes iaith a all
gystadlu i'w dynodi'n iaith draddodiadol, ond y
Saesneg ei hun. Ond yng Nghymru, y Gymraeg yw'r iaith
draddodiadol, ac iddi le arbennig iawn, yn hanesyddol,
yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol. Cydnabuwyd y statws
hwn eisoes gan ddeddfwriaeth yr Iaith Gymraeg,
darpariaeth teledu S4C, a gwaith Bwrdd yr Iaith
Gymraeg. Yn wir, i ryw raddau, mae'r ddeddfwriaeth hon
eisoes wedi rhoi i'r Iaith Gymraeg fwy o freintiau nag
y dylai iaith draddodiadol, fel mater o egwyddor
gyffredinol, eu mwynhau.
Ond dylid datblygu'r cysyniad o iaith draddodiadol
ymhellach, trwy hawl statudol newydd.
-
Dylid dynodi enwau lleoedd naill ai yn yr iaith
swyddogol neu yn yr iaith draddodiadol, ond nid mewn
un arall. Dylid rhoi un enw i bob lle ac un enw'n
unig, pa iaith bynnag a ddewisir. Dylai dewis iaith
fod yn fater i'w benderfynu gan yr awdurdod lleol
mwyaf perthnasol: dylai Cyngor Dinas Caerdydd
benderfynu ar enwi Caerdydd (naill ai "Cardiff" neu
"Caerdydd", ond nid y ddau). I Ddinas Powis, Cyngor
Cymunedol Dinas Powis fyddai'r Awdurdod perthnasol.
-
Gallai cyfleusterau cyhoeddus, yn o^l doethineb yr
awdurdod perthnasol, gael eu rhoi yn y naill iaith,
neu'r llall hefyd - "cemetery" neu "mynwent", "school"
neu "ysgol", "church" neu "eglwys", "museum" neu
"amgueddfa".
-
Dogfennau Cyhoeddus: Yn achos dogfennau cyhoeddus
penodol (boed yn dwyn grym cymhellol neu gynghorol yn
unig) dylai'r Wladwriaeth bob amser, os y gofynwyd yn
y modd iawn gan ddinesydd i wneud hynny, eu darparu yn
yr iaith draddodiadol, yn ogystal ag yn yr iaith
swyddogol. Ni ddylai fod unrhyw ofyn i holl ddogfennau
cyhoeddus gael eu darparu yn yr iaith draddodiadol (oni bai, wrth gwrs, y rhoddir egwyddor mamiaith ar
waith). A dylai fod gan y Wladwriaeth rym dros ben i
benderfynu a yw cais yn blagus neu fel arall heb
sylfaen iawn.
-
Dylai cefnogaeth weithredol gael ei rhoi gan y
Wladwriaeth ar gyfer meithrin yr iaith draddodiadol, o
fewn y system addysg ac fel arall. Yng Nghymru
dylai awdurdodau addysg ddarparu llawer mwy o
gyfleusterau i drigolion sydd am ddysgu Cymraeg.
Dylai'r awdurdod perthnasol bob amser gadw
awdurdodaeth i osgoi defnyddio dwy iaith lle bo
ystyriaethau tra phwysig eraill mewn grym. Er
enghraifft, nodwedd beryglus a dinistriol arwyddion
priffyrdd Cymru yw y caiff cyfarwyddiadau gweithredol
eu rhoi yn Saesneg ac yn Gymraeg, felly'n mentro'r
perygl o ddrysu canfyddiadau mewn amgylchedd lle dylai
diogelwch fod yn holl bwysig.
Iaithoedd Cymunedol
Bydd statws ieithoedd cymunedol yn cynyddu yn eu
pwysigrwydd wrth i fudo rhyngwladol gynyddu, ac i
grwpiau ethnig a diwylliannol gael eu sefydlu o fewn
tiriogaeth pob Gwladwriaeth. Dylid gosod trefniadaeth
ar gyfer dynodi iaith yn swyddogol, o fewn unrhyw uned
diriogaethol llywodraeth, yn iaith gymunedol.
I'r sawl sydd yn siarad ieithoedd estron lleiafrifol,
mae'n siw^r mai'r ddwy ffactor bwysicaf yw (a) dysgu'r
iaith swyddogol, a (b) elwa ar y famiaith. Ond pe ca^i
cymuned ei sefydlu'n gadarn o fewn unrhyw gymdogaeth
(sef profiad cyffredin grwpiau sydd yn mudo) dylid
cydnabod eu sefydlu mewn ffyrdd eraill. Er enghraifft,
dylai cyfleusterau grant fod wrth law ar gyfer
meithrin ieithoedd a diwylliannau cymunedol, a dylai
fod gan unigolion yr hawl i alw am ddarparu dogfennau
yn yr iaith gymunedol (e.e. fel y mae llawer o
awdurdodau addysg yn darparu cyfieithiadau
iaith-estron o ddeunydd sydd yn berthnasol i addysg
plant).
Mae Cynulliad Cymru'n ateb yn dda y diben o ddatblygu
fframwaith statudol newydd, gan ddangos y ffordd
ymlaen, yn rhyngwladol, ar gyfer y dimensiwn hwn o
fywyd cyhoeddus y DU. O fewn y DU dim ond yng Nghymru
y canfyddir ac y dee"llir perthnasedd y materion hyn
yn eang. Ni ddylai fod unrhyw so^n am wrthwynebiad
rhwng cefnogwyr y Saesneg a Ffyddloniaid y Gymraeg.
Mae'r mater yn un dyfnach, yn mynd i urddas hawliau
dynol pob unigolyn o fewn y gymdeithas fodern.
Dylai Cymru gymryd yr awenau rhyngwladol, gyda hybu
Deddf Iaith newydd i'r DU sydd yn cynnwys yr
egwyddorion uchod.
Diwedd
|