Cyflwyno'r Ffydd Bahá'í

 

 

Bahá'ís of Warwick

      Bookshop

Home
About us
Leaflets
Other Items
Rare Books
Spiritual Pursuit
Sale Items
Other Languages
Baha'i Faith

 

Y FFYDD BAHÁ’Í

Mae sawl miliwn o bobl yn y byd yn dilyn crefydd y Ffydd Bahá’í, a’r rheiny’n dod o bob gwlad a phob cefndir.

·    Mae’r bobl hyn i gyd yn credu yn undod y ddynoliaeth - bod pob person yn bwysig, ac y dylai’r byd fod yn un wlad a redir er lles pawb.

·        Maent yn credu mai’r gwahaniaeth rhyngom sy’n gwneud bywyd yn ddiddorol ac y dylem goleddu’r gwahaniaethau hyn yn hytrach na’u hanwybyddu.

·        Maent yn credu mai dim ond un crefydd fu erioed - sef crefydd Duw. Anfonodd Duw Ei Negeswyr i wahanol lefydd ar wahanol adegau fel bo modd i bawb yn y byd glywed Amdano.

·        Mae pobl Bahá’í yn credu mai dim ond un Duw sydd, er bod gan bobl wahanol enwau Arno.  Ni allwn fyth Ei lwyr ddeall; ni allwn ond dysgu Amdano trwy gyfrwng Ei greadigaeth a’i Negeswyr.

·        Mae pobl Bahá’í yn dilyn Bahá’u’lláh, y diweddaraf mewn cyfres hir o Negeswyr a anfonwyd gan Dduw i ddweud wrthym sut i fyw ac ymddwyn. Ystyr yr enw Bahá’u’lláh yw Gogoniant Duw. Er Iddo fynd i’r byd nesaf ychydig dros gan mlynedd yn ôl, ysgrifennodd Bahá’u’lláh bopeth y mâe angen i ni wybod ynglyn â sut i greu gwell bywyd yma ar y ddaear ac yn y byd a ddaw.

·        Mae pobl Bahá’í yn credu bod Crist, Muhammad, Buddha, Moses a Krishna i gyd yn Negeswyr gan Dduw.

·        Yr un neges sylfaenol oedd gan y Negeswyr hyn i gyd - sef y dylem garu Duw a charu’n gilydd, y dylem fod yn onest, yn eirwir, yn garedig, yn bobl y gellir ymddiried ynddynt ac yn ddiymhongar.  Dim ond eu dysgeidiaeth gymdeithasol oedd yn wahanol: a’r rheswm am hyn oedd eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer amser a lle penodol. Gan ein bod ni bellach yn rhan o gymdeithas fyd-eang, mae angen cyfreithiau newydd.

·        Addawodd pob un o’r Negeswyr hyn y deuai adeg pan fyddai Negesydd o bwys un dod i ddwyn heddwch i’r byd i gyd.  Mae pobl Bahá’í yn credu mai Bahá’u’lláh oedd y Negesydd hwnnw ac mai rwan yw’r amser i gael heddwch.

CYFLWR Y BYD

Mae pobl Bahá’í yn poeni’n fawr am gyflwr ein byd.  Maent yn teimlo bod angen i ni gael agwedd fwy ysbrydol, llai hunanol tuag at y byd hwn a bod angen i ni fyw mewn harmoni â’n hamgylchedd.  Lle bynnag y bydd pobl Bahá’í yn byw, byddant yn ceisio cynorthwyo pobl ym mha fodd bynnag y gallant.  Os ydyn nhw’n byw mewn pentref yn y Trydydd Byd, byddant yn trefnu prosiect ysgol, ffermio neu iechyd a fydd o fudd i bawb.  Ym mhob gwlad mae sawl ffordd y gall y Bahá’í fod yn ddefnyddiol.

Yn anad dim, mae pobl Bahá’í yn gwneud popeth yn eu gallu i hyrwyddo heddwch yn y byd - trwy ymuno â grwpiau eraill a’u cefnogi a chynnig eu syniadau hwy eu hunain ar gyfer cynhadledd heddwch ryngwladol.  Dim ond pan fydd gennych heddwch a chydweithrediad y bydd modd datrys nifer fawr o broblemau’r byd.

BYWYD BOB DYDD

Bob dydd, dylai dilynwyr y ffydd Bahá’í droi at Dduw mewn gweddi.  Bob bore a bob gyda’r nos, dylent ddarllen ysgrythurau Bahá’i, myfyrio arnynt a cheisio’u rhoi ar waith.

Mae nifer o lyfrau’n cynnwys ysgrythur Bahá’í ond dyma ychydig o enghreifftiau ohonynt:

“Trowch eich meddyliau i gyd i gyfeiriad dod â llawenydd i galonnau.”

“Ymdrechwch fel bo’ch gweithredoedd o ddydd i ddydd yn weddïau hardd.”

“Peidiwch ag ystyried neb yn ddieithryn; yn hytrach, ystyriwch bob dyn yn gyfaill.”

"Paid ag anadlu pechodau eraill a thithau’n bechadur dy hun."

“Meddylia bob amser am roi gwasanaeth i bob aelod o’r hil ddynol.”

Efallai ei bod hi’n anodd byw yn ôl dysgeidiaeth Bahá’í ond ni allwn ond gwneud ein gorau.

Trwy gyfrwng gweddi, byddwn yn darganfod beth y gallwn ei wneud i wella’n hunain a gwasanaethu’n cyd-ddynion a dod o hyd i’r nerth i wneud hynny.

Cred y Bahá’í mai ein diben yn y bywyd hwn yw dysgu a datblygu fel ein bod yn nes at Dduw pan symudwn ymlaen i’r byd nesaf.

BYWYD Y GYMUNED BAHÁ’Í

Bydd pobl Bahá’í yn cyfarfod yn aml i weddïo, i drafod materion lleol, i fwyn-hau cwmni ei gilydd ac i ddod i adnabod ei gilydd.  Gelwir hyn yn "wledd".  Lle na fydd ond ychydig o bobl y Ffydd, byddant yn cyfarfod yng nghartref rhywun.  Lle bydd pentref cyfan yn bobl Bahá’í, byddant yn codi canolfan.  Mewn rhai mannau yn y byd, mae Tai Addoli mawr sy’n agored i bawb beth bynnag y bo’u crefydd.

Bydd pobl Bahá’í yn aml yn cynnal cyfarfodydd bychain yn eu cartrefi i bobl sy’n dymuno dod i siarad a dysgu mwy am Grefydd Bahá’í.  Fel arfer, gelwir y rhain yn "aelwydydd".

Ym mhob ardal leol, bydd y Bahá’í yn ethol cynulliad o naw o bobl sy’n gwneud yn siwr bod popeth yn mynd rhagddo’n llyfn a bod pawb yn hapus.  Mae gan bob gwlad gynulliad cenedlaethol a cheir un corff byd eang hefyd.

Y DYFODOL

·        Mae pobl Bahá’í yn credu y bydd llywodraeth fyd-eang ryw ddydd a fydd yn sicrhau bod pob gwlad yn cael ei thrin yn deg a bod y blaned yn wynebu’r dyfodol mewn cyflwr iach.

·        Ni fydd gwahaniaethau mawr bryd hynny rhwng y gwledydd cyfoethog a’r gwledydd tlawd, na rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd.

·        Bydd modd i bob plentyn yn y byd fynd i’r ysgol.

·        Bydd pawb yn dysgu iaith ryngwladol fel bo modd i ni ddeall ein gilydd yn well.

·        Bydd menywod yn cael eu trin yn gyfartal â dynion a byddant yn defnyddio’u dylanwad i ddwyn heddwch i’r byd.

·        Yn y pen draw, pobl y byd sy’n gorfod newid y byd.  A rhaid i hynny ddechrau gyda ni’n hunain.

 

(Apologies if there are any errors in this leaflet - we didn't have the text in electronic form, so had to scan it in, and as we are not Welsh speakers ourselves, although we have checked it carefully, we may not have noticed any mistakes!)

Please remember that these leaflets are copyright. However, you may print off one copy for your own use. If you wish to make more copies, please contact us for permission. Thankyou.

Back to leaflets page.